Math | dyffryn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 54.545°N 1.927°W ![]() |
![]() | |
Dyffryn yng Ngogledd Lloegr yw Teesdale . Mae'r cwm yn nalgylch yr Afon Tees ; mae'r mwyafrif o'r dŵr yn deillio neu'n cydgyfeirio i'r afon honno, gan gynnwys yr afonnydd Skerne a Leven .
Adnabyddir Teesdale Uchaf/Upper Teesdale, yn fwy cyfarwydd yn ôl yr enw Teesdale ac fe'i lleolir rhwng y Durham a Dyffryndiroedd Efrog/Yorkshire Dales . Mae rhannau helaeth o Teesdale Uchaf o fewn AHNE Gogledd Pennines (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) - yr ail AHNE fwyaf yn Lloegr. Mae Afon Tees yn codi islaw Cross Fell, y bryn uchaf yn y Pennines yn 890m, [1] ac mae ei ddyffryn uchaf yn anghysbell ac uchel.Yn wyddonol nodir yr hinsawdd lleol yn "Is-Arctig" ar adegau gwelir eira'n gorwedd ar Cross Fell hyd at fis Mehefin (mae yno ardal sgïo alpaidd yn Yad Moss). [2] [3]
Mae gan Lower Teesdale rannau trefol cymysg ( Tees Valley neu Teesside ) a gwledig ( Cleveland ). Mae Roseberry Topping yn fryn nodedig ar yr ochr dde-ddwyreiniol, ac mae hwn a bryniau cyfagos eraill yn ffurfio pen gogleddol Rhostiroedd Gogledd Efrog/North York Moors .
Mae termau mwy newydd wedi ennill cysylltiadau cryfach â rhannau gwahanol o'r cwm oherwydd eu defnydd fel enwau etholaethau ac awdurdodau gwleidyddol penodol.